Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 29 Mawrth
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4259
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4 a 7 gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.10
Dechreuodd yr eitem am 16.06
Bod y Cynulliad yn ystyried effaith tanio Erthygl 50 ar Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
34 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.12
I’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau
Cymdeithasol:
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reolaeth Chwaraeon Cymru yn y dyfodol yn dilyn y penderfyniad i roi terfyn ar swyddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y sefydliad? EAQ(5)0154(HWS)
Dechreuodd yr eitem am 16.24
Gwnaeth Jenny Rathbone ddatganiad am Wythnos Chwyldro Ffasiwn 24-30 Ebrill.
Gwnaeth Mark Isherwood ddatganiad ynghylch “"Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd".
Gwnaeth Suzy Davies ddatganiad ynghylch y gwasanaeth newydd sy’n ystyriol o ddementia a lawnswyd yn Tesco wythnos diwethaf yn Abertawe.
Dechreuodd yr eitem am 16.29
NDM6275 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr Ymchwiliad i Ddarparu Eriolaeth Statudol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.02
NDM6276
Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.48
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6274
David
Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ysgolion o ran ei gyflawni.
2. Yn credu y bydd herio barn gyhoeddus leol yn cyfyngu ar y gobaith o lwyddo ac y dylai newidiadau i sefydliadau addysgol sy'n cwmpasu Cyfnodau Allweddol 1 i 5 gael eu gwneud mewn ffordd a gaiff ei chefnogi gan y mwyafrif o rieni, gwarcheidwaid neu drigolion lleol, sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau addysgol ar ran eu plant.
3. Yn credu bod angen i gynigion i newid ysgolion cyfrwng Saesneg, ysgolion dwy-ffrwd neu ysgolion pontio yn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu eu cau gynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol:
a) gyda'r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau, cyfeiriadau a chodau post;
b) gyda'r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir yn cael eu cofnodi fel sylwadau ar wahân; ac
c) nad yw'n rhoi blaenoriaeth i drydydd parti, nad yw'n gysylltiedig â'r mater, dros ddymuniadau rhieni neu drigolion lleol.
4. Yn credu bod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin cyn penderfynu cau ysgol babanod ac ysgol iau ffederal dwy-ffrwd Llangennech a'u troi'n un ysgol cyfrwng Cymraeg yn un gwallus.
5. Yn credu y dylai'r cyngor ddiddymu ei benderfyniad tra cynhelir ymgynghoriad pellach ar sail yr egwyddorion a nodir ym mharagraff 3 uchod.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
0 |
45 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn eleni er mwyn ymgynghori ar ddarpariaethau ar gyfer Bil newydd y Gymraeg fel rhan o gynlluniau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.
Yn cydnabod y buddsoddiad ychwanegol yn 2017-18 i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Cymraeg yn y gweithle a hyrwyddo'r Gymraeg.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Yn cydnabod bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth gynnig newidiadau sylweddol i ysgolion yn eu hawdurdodaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
17 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Derbyniwyd gwelliant 1, felly cafodd gwelliant 3 ei
ddad-ddethol.
Ni chynigiwyd gwelliant 2.
4.
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu bod cwymp wedi bod yn nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith
sy'n dechrau yn y proffesiwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
5.
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y broses o gau ysgolion wedi cael effaith anghymesur ar ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
9 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi holl fanteision gwybyddol, addysgol, economaidd a chymdeithasol dwyieithrwydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
7.
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod canran y dysgwyr saith oed sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neb newid yn y blynyddoedd diwethaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
8.
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig.
Yn
nodi bod Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir
Caerfyrddin 2014-2017, a oedd yn cynnwys y penderfyniad i sefydlu
ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llangennech, wedi'i gymeradwyo'n unfrydol
gan y Cabinet o dan arweiniad Llafur ym mis Gorffennaf 2014, a bod
yr holl benderfyniadau dilynol wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdodau
priodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
11 |
31 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6274
David
Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ysgolion o ran ei gyflawni.
2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn eleni er mwyn ymgynghori ar ddarpariaethau ar gyfer Bil newydd y Gymraeg fel rhan o gynlluniau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.
3. Yn cydnabod y buddsoddiad ychwanegol yn 2017-18 i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Cymraeg yn y gweithle a hyrwyddo'r Gymraeg.
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.
5. Yn cydnabod bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth gynnig newidiadau sylweddol i ysgolion yn eu hawdurdodaeth.
6. Yn nodi holl fanteision gwybyddol, addysgol, economaidd a chymdeithasol dwyieithrwydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
1 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.40
Dechreuodd yr eitem am 18.46
NDM6266
Dawn
Bowden (Merthyr Tydfil a Rhymni)
Undebau Credyd: Cyfraniad allweddol i fynd i'r afael ag
allgáu ariannol.
Dechreuodd yr eitem am 19.01
NDM6273 Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru)
Enseffalopathi trawmatig cronig a chwaraeon - a all Cymru arwain y ffordd?
Daeth y cyfarfod i ben am 19.15
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 4 Ebrill 2017